Problem Gordewdra ymhlith Plant
Yn 2016 cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd bod gordewdra ymhlith plant yn epidemig byd-eang.
“Her Iechyd Cyhoeddus fwyaf yr 21ain ganrif”
Nid yw gwledydd Ewrop, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yn eithriad yn hyn o beth. Os oes arnom eisiau amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag clefydau sy'n gysylltiedig â gordewdra megis Diabetes Math 2, clefyd cardiofasgwlar a chanser, mae angen i'n plant ddysgu o oedran ifanc sut i fwyta mewn ffordd sy'n gyson â faint o egni maen nhw'n ei ddefnyddio.