Taclo Defnyddio Calorïau: Symud yn Egnïol gyda'r Dynamic Dudes!

Yn y cyfamser, peidiwch â digalonni! Bydd llwyddo i gael plant i fod yn fwy egnïol hefyd yn golygu y bydd iechyd a lles plant yn gwella.

Mae plant wedi eu geni i fod yn egnïol. Yn anffodus, mae trefoli, dulliau goddefol o deithio i'r ysgol ac yn ôl adref, diffyg mannau chwarae diogel, a themtasiynau cryf i dreulio amser o flaen sgrin, yn golygu eu bod yn byw bywydau cynyddol eisteddog yn y cartref a thu allan i'r cartref/ Er mwyn taclo'r risg ychwanegol hon i iechyd a lles plant, mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig yn argymell bod plant yn gwneud 60 munud o weithgareddau egnïol bob dydd, ac y dylai 30 munud o’r gweithgareddau hynny ddigwydd yn yr ysgol (Cynllun Gweithredu Gordewdra Plant, y GIG, 2016). Felly sut mae cyrraedd y targed hwnnw bob dydd ?

 

Dyma waith ar gyfer y Dynamic Dudes!

Dyma chwaer-raglen, sydd newydd ei datblygu, i raglen y Food Dudes, lle mae'r un cymeriadau arwrol - Charlie, Rocco, Razz a Tom - i'w gweld yn ymarfer er mwyn perffeithio'r sgiliau symud ysblennydd yr ydym wedi'u gweld yn eu perfformio yn y Dude Den - sgiliau sydd wedi helpu'r Dudes i rwystro cynlluniau dieflig General Junk a'r Junk Punks.

Crefft ymladd sy'n mynd â bryd Charlie, mae Rocco wedi gwirioni ar bêl-droed, mae gan Tom obsesiwn am gymnasteg a dydy Razz byth yn stopio dawnsio - hyd yn oed yn ei chwsg!

Mae rhaglen y Dynamic Dudes, sydd newydd ei llunio, yn rhaglen newid ymddygiad nid-er-elw ac ar sail tystiolaeth ar gyfer plant ac athrawon mewn ysgolion cynradd. Mewn cyfnod o lymder ariannol byddwn yn canolbwyntio yma ar yr elfen o'r rhaglen Dynamic Dudes a gynhelir yn yr ystafell ddosbarth, sy'n ymyriad grymus ond isel ei gost y gall yr ysgolion eu hunain ei ddarparu'n hawdd trwy gyfrwng y wefan hon. Mae Charlie, Rocco a Razz yn siarad Cymraeg ac mae Tom yn dysgu felly mae'r fideos ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Ystafell Ddosbarth Dynamic Dudes

Beth yw Ystafell Ddosbarth Dynamic Dudes?

Mae Ystafell Ddosbarth Dynamic Dudes yn golygu cynnal sesiynau ymarfer dwyster uchel am 15 munud bob dydd. Nid oes angen newid i ddillad chwaraeon na gwisgo cotiau i fynd allan - yn syml, mae'r plant yn codi oddi wrth eu desgiau, yn gwneud yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon o le ac maen nhw'n barod i fynd amdani! Ymhob sesiwn, bydd y plant yn dysgu perfformio dawns, gwneud gymnasteg, chwarae pêl-droed a gwneud symudiadau crefft ymladd sy'n cynnwys Ystwythder, Cydbwysedd a Chydsymud trwy gopïo'r symudiadau y mae Razz, Rocco, Charlie a Tom yn eu gwneud yn ofalus. Mae gan bob cymeriad eu cyfres fideo eu hunain i fodelu eu sgiliau arbennig, gan fynd yn raddol anoddach, o lefel dechreuwr i lefel uwch, ac yn y pen draw i'r lefel uchaf un!

 

Fel y gallwch weld, mae sesiynau dyddiol, 15 munud, y Dynamic Dudes yn yr ystafell ddosbarth yn llawn egni ac yn llawer o hwyl. Maent yn gwella ffitrwydd cardioresbiradol plant, yn cael effaith gadarnhaol ar fesuriad y wasg a gallant helpu i gryfhau datblygiad yr esgyrn a'r cyhyrau. Mae'r sesiynau ymarfer corff hyn mor ddwys nes eu bod yn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd neu hyd yn oed yn gwneud mwy na tharged Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig ar gyfer gwneud gweithgarwch egnïol yn yr ysgol.

Wrth i sgiliau symud plant ddatblygu yn yr ystafell ddosbarth, byddant yn fwy awyddus hefyd i roi cynnig ar sgiliau chwaraeon a hamdden newydd y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. Mae buddion eraill i'w cael hefyd! Mae athrawon yn adrodd bod sesiynau Ystafell Ddosbarth Dynamic Dudes yn gwella gallu plant i ganolbwyntio yn y dosbarth am weddill y dydd!

 

Nod tymor hir y Dynamic Dudes yw dysgu'r sgiliau symud sylfaenol hynny sy'n rhan o ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden i helpu plant i werthfawrogi bod byw bywyd egnïol yn fuddiol i iechyd a lles, nid yn unig tra byddant yn blant, ond am weddill eu bywydau.

Mae pecyn Dynamic Dudes i'r ystafell ddosbarth bellach ar gael ar-lein. Dysgwch sut y gallwch gyflwyno rhaglen ystafell ddosbarth y Dynamic Dudes, sy'n rhaglen ddwyieithog ac nid-er-elw, yn eich ysgol gynradd chi - cliciwch yma.

Tudalen flaenorol

Tudalen nesaf