Taclo Cymeriant Calorïau

Mae cymorth ar gael: y Food Dudes i'r adwy!

Mae'r rhaglen Food Dudes wedi bod yn cael ei datblygu ym Mhrifysgol Bangor ers 30 mlynedd. Mae'r rhaglen yn defnyddio Modelu Rôl a Gwobrau i annog plant i flasu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, a'u blasu sawl gwaith.

Trwy “addasiad y daflod” po fwyaf y bydd plant yn blasu'r bwydydd iach hyn, y mwyaf y byddant yn mwynhau eu bwyta. Mae'r rhaglen unigryw hon, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn arwain at gynnydd sylweddol a pharhaol yn faint o ffrwythau a llysiau y mae plant 5 i 11 oed yn ei fwyta yn yr ysgol - gan olygu bod hyn hefyd yn cael effaith wedyn yn y cartref.

Mae deiet sy'n cynnwys llawer o ffrwythau a llysiau nid yn unig yn darparu maetholion sy'n cynnal iechyd plant dros y tymor hir ond gall hefyd helpu i leihau faint o fyrbrydau sy'n uchel mewn calorïau maen nhw'n ei fwyta.

 

Pwy yw'r Food Dudes?

Razz, Rocco, Charlie a Tom sy'n cyflwyno'r modelu rôl. Nhw yw'r Food Dudes, sef y cymeriadau arwrol sydd eisoes wedi ysbrydoli cenhedlaeth o blant yn Iwerddon, mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau'r Amerig a'r Eidal, i fwynhau bwyta amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau er mwyn cael yr “egni arbennig” y mae arnynt ei angen i'w helpu i drechu’r dihirod drwg, sef General Junk, Miss Demeanor (neu Miss De Meena) a’r Gruesome Twosome. Mae arnyn nhw eisiau difa dynoliaeth trwy ddinistrio ffrwythau a llysiau - sef y bwydydd sy'n rhoi grym bywyd i ni.

Dewch i gyfarfod â'r Food Dudes!

A bellach y Food Dudes "bach" hefyd...

O ystyried yr angen cynyddol am ymyrraeth gynnar, rydym bellach wedi llwyddo i ddatblygu a threialu rhaglen Food Dudes Meithrin sydd wedi'i theilwra ar gyfer plant 3 i 4 oed mewn lleoliadau gofal plant ac ar gyfer plant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd.

Effeithiau hirdymor

 

Nododd y gwerthusiad annibynnol diweddaraf a wnaed ar y rhaglen Food Dudes yn Iwerddon fod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar faint o ffrwythau a llysiau mae plant yn ei fwyta a bod hynny'n para am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cymryd rhan. Felly, diolch i'r ymdrechion arwrol yn Iwerddon, mae rhan o'r frwydr wedi ei hennill!

Gwobrau a Thystebau

Gyda mwy na miliwn o blant bellach wedi cymryd rhan yn y rhaglen, mae Food Dudes wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys: Gwobr Aur Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig am Ymladd Gordewdra, Gwobr Rhagoriaeth Iechyd Cyhoeddus, a Gwobr Arfer Gorau Sefydliad Iechyd y Byd am gynnal y rhaglen mewn ysgolion cynradd ledled Iwerddon. Mae'r rhaglen Food Dudes hefyd wedi derbyn: Gwobr am y Defnydd Gorau o Ymchwil Iechyd gan y Local Area Research & Intelligence Association, Gwobr am y Cysyniad Mwyaf Arloesol yng ngwobrau Local Authority Catering Awards, Gwobr am Gyfieithu Gwyddonol gan y Society for the Advancement of Behaviour Analysis a Gwobr Ymddiriedolaeth Caroline Walker am Gyfraniad Eithriadol i Iechyd.

 

“One of the most exciting things going on in the food world, which could completely transform the way Britons eat”

Prue Leith, Cyn-gadeirydd y Schools Food Trust

“This is an excellent example of how our promotion efforts can make a real difference to the long-term health of our citizens”

Mariann Fischer Boel, Comisiynydd Ewrop dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

“To change children’s diets, it’s not enough just to give them healthy food, you also have to motivate them to eat and enjoy it, and this programme does just that”

Y Cynghorydd Bob Sleigh, Cyn-aelod Cabinet dros Iechyd a Lles.

“This is one of the most significant things to promote the health of our nation to come out for decades”

Yr Athro John Price, Meddygaeth Resbiradol Pediatreg, King's College London.

“Over 80% of all national schools have participated in Food Dudes. Our Food Dudes programme not only catches the imagination of the children but also their parents. It has the capacity to make a positive impact on children’s eating habits and to play a significant role in contributing to a sustainable behaviour change in addressing the major challenge of obesity. I am aware that parents and teachers alike welcome both the Food Dudes and its Next Generation programme in the school curriculum. It endorses what parents are teaching their children in the home and supports the necessity to increase children’s fruit and vegetable consumption"

Simon Convey, Gweinidog Amaeth, Bwyd a'r Môr, Iwerddon.


Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ffyrdd cost-effeithlon o gynnal y rhaglen Food Dudes yn y Deyrnas Unedig. I weld sylfaen dystiolaeth Food Dudes cliciwch yma.

Tudalen flaenorol

Tudalen nesaf