Cyfres Dechreuwyr

Dynamic Dudes yn y Cartref

Ynghylch y gyfres hon

Yn ogystal â dysgu'ch plentyn i berfformio sgiliau symud newydd cŵl sy'n sail i amryw o weithgareddau chwaraeon a hamdden, mae'r fideos yn cynnig 15-20 munud o weithgareddau corfforol sy'n amrywio o'r cymedrol i'r egnïol.

Rydym yn argymell chwarae un fideo y dydd, er enghraifft:
Dydd Llun - Charlie (Crefftau Ymladd),
Dydd Mawrth - Tom (Gymnasteg)
Dydd Mercher - Rocco (Pêl-droed)
Dydd Iau - Razz (Dawns)

Mae dwy fideo ar bob tudalen. Mae'r fideo gyntaf yn dangos y symudiadau'n symud yn araf i'r plentyn gael ymarfer a pherffeithio pob symudiad cyn ei berfformio ar gyflymder llawn yn y fideo llawn isod.

Mae tair cyfres o fideos a phob un yn mynd yn fwy anodd bob tro: Dechreuwr, Uwch ac yn olaf Peak Power!

Y peth gorau yw gweithio trwy'r fideos yn y drefn honno, a dangos y fideos Dechreuwr 1 bob dydd yn Wythnos 1 a 2 (neu ba mor hir bynnag sydd angen i'ch plentyn feistroli'r symudiadau sy'n cael eu modelu'n llawn) cyn symud ymlaen at fideos Cyfres Dechreuwyr 2 ac ati.

Gobeithio y bydd eich plentyn yn mwynhau dysgu'r sgiliau newydd hynod o cŵl sy'n cael eu modelu yn y fideos ac y cewch chithau hwyl wrth ymuno hefyd.

Gallwch fynd at y fideos trwy glicio 'cyfres 1' yn y tab sydd ar ochr dde'r sgrin.

Cadwch yn Ddiogel a Chadwch i Symud, Dudes!