Croeso

Dyma lle mae dysgu,
ie, neidiwch ar eich traed,
a'ch athrawon hefyd,
mae'n rhaid cynhesu'r gwaed!
Pan fyddwch yn yr ysgol
bydd ein symudiadau ni
yn eich cadw chi yn heini
ac fe gewch chi hwyl a sbri!
Dewch i ddawnsio, dewch i redeg,
dewch i neidio dros bob man,
dewch â'ch gwynt yn llond eich dyrnau,
dewch ar frys i gymryd rhan!

Tudalen nesaf